BWRSARIAETH UAC O £1,000 I FYFYRWYR YN CAEL EI LANSIO YN YR EISTEDDFOD
BYDD rhaid i fyfyrwyr llawn amser newydd ysgrifennu traethawd 1,000 o eiriau ar un o dri pwnc ar ddyfodol ffermio yng Nghymru fel y gosodwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru sy'n lansio'i bwrsariaeth flynyddol o £1,000 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala.
Y pynciau yw:
- Pa sialensau bydd newid yn yr hinsawdd yn ei greu ar gyfer ffermio a chynhyrchiant bwyd yng Nghymru dros y 50 mlynedd nesaf?
- Beth ddylai'r diwydiant ffermio yng Nghymru a'r Llywodraeth wneud i ddenu rhagor o bobl ifanc mewn i amaethyddiaeth?
- Sut byddech yn mynd ati i roi gwedd newidiad i'r diwydiant ffermio yng Nghymru er mwyn denu rhagor o gefnogaeth a theyrngarwch oddi wrth y cyhoedd?
Penderfynodd beirniaid llynedd roi bwrsariaeth o £700 i Jon Paul Mccalmont, myfyriwr 39 mlwydd oed sy'n astudio rheolaeth cefn gwlad ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Derbyniodd Jon, sy'n dod o Langammarch Wells ym Mhowys, ei wobr oddi wrth Gareth Vaughan, Llywydd UAC ar stondin yr Undeb yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru mis Rhagfyr llynedd.
Cafodd ei eni a'i fagu yn Nhalybont ar Wysg, a gweithiodd fel contractwr hunan gyflogedig yn y diwydiant coedwigaeth cyn dechrau ar ei gwrs prifysgol.
Roedd yr ail a'r trydydd gorau yn derbyn siec o £200 yr un, sef dau fab fferm, Roger Williams, 18 oed o Lanandras ym Mhowys a Guto Siôn Owen,19 oed o Foel Gadeiriau, Llangernyw, Abergele, ac mae'r ddau'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae manylion llawn ar sut i ymgeisio am y fwrsariaeth yn gynwysedig mewn taflen sydd ar gael o brif swyddfa UAC yn Aberystwyth neu oddi wrth unrhyw un o swyddfeydd sirol yr Undeb yn ogystal â stondin UAC yn yr Eisteddfod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Medi 30, 2009.
Older/Newer
« FUW SAYS DFB INQUIRY IS MAJOR STEP FORWARD | EISTEDDFOD LAUNCH FOR £1,000 FUW STUDENT BURSARY »
0 TrackBacks
Listed below are links to blogs that reference this entry: BWRSARIAETH UAC O £1,000 I FYFYRWYR YN CAEL EI LANSIO YN YR EISTEDDFOD.
TrackBack URL for this entry: http://fuwdenbighshire.northwalesblogs.co.uk/cgi-bin/mt421/mt-tb.cgi/141932



Leave a comment