http://fuwdenbighshire.northwalesblogs.co.uk/

UAC YN CYNNIG CROESO CYNNES A LLU O DDIGWYDDIADAU YN YR EISTEDDFOD

By Marian Jones on Jul 31, 09 03:00 PM

MAE aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ar draws Meirionnydd wedi cyfrannu bron £1,000 er mwyn darparu'r Fedal Ryddiaith a gwobr o £750 i'r ennillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala wythnos yma (Awst 1-8).

Bydd ceremoni'r fedal ryddiaith yn digwydd am 4.30yp, dydd Mercher, Awst 5 ac roedd yn rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno cyfrol o waith ar y thema "gwead".

"Danfonon lythyr at yr aelodau yn gofyn am gyfraniadau at gyfer y wobr urddasol iawn yma, a llifodd yr arian i mewn,"dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol sir Meirionnydd UAC.

"Rwy'n hynod o ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau tuag at un o brif wobrau'r eisteddfod a gobeithiwn y bydd yn mynd i ennillydd teilwng iawn."

Mae croeso cynnes yn disgwyl aelodau, cefnogwyr a ffrindiau ar stondin UAC (Rhif 641-642) ar y Maes lle bydd llu o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos.

"Mae'r stondin mewn lle hwylus gerllaw'r prif bafiliwn ac yn gyfle gwych i daro draw am baned a sgwrs wrth fwynhau'r nifer o arddangosfeydd a digwyddiadau yr rydym wedi eu trefnu," dywedodd Mr Jones.

Trwy gydol yr wythnos bydd eisteddfodwr brwd, Aeryn Jones o Ddinmael ger Corwen yn dangos ei gasgliad o hen offer amaethyddol a bydd hyn yn sicr o fod yn destun sawl sgwrs.

Hefyd, bydd yna arddangosfa o luniau aelodau UAC gan Chris Clunn, ffotograffydd proffesiynol sydd bellach yn byw ym Maentwrog.

"Enghraifft yn unig yw'r lluniau o waith a diddordeb Chris Clunn ac mae'n barod iawn i ymweld a thynnu lluniau aelodau eraill o'r Undeb o fewn Meirionnydd unrhyw amser yn y dyfodol" meddai Mr Jones.

Bydd Rhian Owen o Aberdyfi yn bresennol ar y stondin dydd Llun a dydd Mercher i ddangos sut mae torri oen i fyny. Mae Rhian yn gweithio'n llawn amser yn siop y teulu, sef Cigydd Aberdyfi, ac mae wedi ennill y teitl o 'Gigydd Ifanc y Flwyddyn' trwy gydol Cymru yn 2006.

Prynwyd y siop gan ei thad, Dewi Owen sy'n aelod o UAC, a'r teulu, Fferm Esgairgyfela, Aberdyfi yn 2005, ac maent wedi ennill un o wobrau'r gystadleuaeth 'Gwir Flas' yn 2007.

Bydd Aled Owen, Penyfed, T Nant ger Corwen, y meistr ar drin cn defaid yn ymweld â'r stondin dydd Mercher. Mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Pencampwr Byd Treialon Cn Defaid yn 2002 a 2008.

Dydd Iau, byddwn yn cael ymweliad arbennig gan un o ferched yr ardal sydd wedi dod yn enwog yn ddiweddar. Roedd Elin Haf Davies yn rhan o'r criw cyntaf o ferched i rwyfo ar draws cefnfor India mis diwethaf.

Roedd y merched, sy'n galw eu hunain yn "Ocean Angels" wedi ffurfio'r criw cyntaf i rwyfo'r 3720 o filltiroedd ar draws cefnfor India o Awstralia i Fauritius gan gymryd 79 o ddiwrnodau i wneud hynny.

"Maent wedi codi arian sylweddol i'r elusen "Breast Cancer Care" a bydd cyfle pellach i bobl gyfrannu at yr elusen bwysig yma yn ystod ymweliad Elin," dywedodd Mr Jones.

Hefyd Dydd Mercher, bydd Gwenan Pawee, sy'n wreiddiol o Fferm Llwyngwgan ger Llangwm yn dangos y grefft o nyddu gwlân, ac eto, bydd hyn yn sicr o ddenu llawer o ddiddordeb.

Bydd taflenni a gwybodaeth am yr elusen RABI (Royal Agricultural Benevolent Institution) ar gael trwy gydol yr wythnos i egluro'r gwaith a wneir a'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd amaethyddol.

"Mae'r elusen yn derbyn cefnogaeth lawn UAC ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i roi cymorth mewn unrhyw fodd" ychwanegodd Mr Jones

NODYN I OLYGYDDION:

Am ragor o wybodaeth, gellid cysylltu gyda Huw Jones, sy'n siarad Cymraeg ar 07974 795778

FUW OFFERS WARM WELCOME AND HOST OF EVENTS AT EISTEDDFOD

Members of the Farmers' Union of Wales throughout Meirionnydd have donated nearly £1,000 to provide the prose medal and the winner's £750 prize-money at the National Eisteddfod in Bala this week (August 1-8).

The prose medal ceremony takes place at 4.30pm on Wednesday, August 5 and competitors were requested to submit a volume of work with "texture" as its theme.

"We sent a letter out to members seeking contributions for this very prestigious prize and the cash just rolled in," said FUW's Meirionnydd county executive officer Huw Jones.

"I am extremely grateful for all their contributions towards one of the eisteddfod's top awards and we hope it goes to a very worthy winner."

A warm welcome awaits members, supporters and friends at the FUW stand (No 641-642) on the Maes where a host of events will be staged throughout the week.

"The stand is situated in a convenient spot near the main pavilion and is an excellent chance to call in for a cup of tea and a chat at the same time as enjoying the numerous displays and events we have organised," said Mr Jones.

Throughout the week keen eisteddfodwyr Aeryn Jones, of Dinmael, near Corwen, will be showing items from his collection of old agricultural tools which will sure to be a major talking point.

Also, there will be a photographic exhibition of FUW members by Chris Clunn, a professional photographer who now lives in Maentwrog.

"The photographs are only a small example of Chris's work and interest and he would be more than happy to visit and photograph other union members within Merioneth any time in the future," said Mr Jones.

On Monday and Wednesday, Rhian Owen, from Aberdyfi, will be present on the stand to show how to cut up a lamb. Rhian works full time in her family's shop, Cigydd Aberdyfi, and won the title of Young Butcher of the Year throughout Wales in 2006.

The shop was bought by her father, FUW member Dewi Owen and family, Esgairgyfela Farm, Aberdyfi, in 2005 and they clinched one of the True Taste awards in 2007.

On Wednesday, Aled Owen, Penyfed, Ty Nant, near Corwen, an expert in the field of sheepdog trials will visit the stand. He has won numerous prizes as a trialist, including the world championship in 2002 and 2008.

On Thursday, there will be a special visit by a local girl who became famous recently. Elin Haf Davies was part of the first female crew to sail across the Indian Ocean last month.

The girls, who call themselves the "Ocean Angels", were the first crew to row 3,720 miles across the Indian Ocean from Australia to Mauritius, taking 79 days to do so.

"They have raised a considerable amount of money for the Breast Cancer Care charity and people will have a further opportunity to donate to this important charity during Elin's visit," said Mr Jones

Also on Wednesday, Gwenan Pawee, originally from Llwyngwgan Farm, near Llangwm, will demonstrate the craft of wool spinning and this again is sure to attract much interest.

Leaflets and information about the Royal Agricultural Benevolent Institution (RABI) charity will also be available throughout the week to explain the work that it does and the help that is available to agricultural families.

"This charity receives the FUW's full support and every attempt is made to help in any way," Mr Jones added.

NOTE TO EDITORS: Welsh-speaking Huw Jones can be contacted for more details on 07974 795 778.


0 TrackBacks

Listed below are links to blogs that reference this entry: UAC YN CYNNIG CROESO CYNNES A LLU O DDIGWYDDIADAU YN YR EISTEDDFOD.

TrackBack URL for this entry: http://fuwdenbighshire.northwalesblogs.co.uk/cgi-bin/mt421/mt-tb.cgi/141955

1 Comments

Your blog is really informative. I subscribed to your RSS.

Leave a comment


Type the characters you see in the picture above.

This is to help prevent spamming and confirm you are a human

 

Keep up to date

Sponsored Links